Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dim yn y seler neu'r gwely.' 'Wel,' ebr y Fall fawr, 'er yr haeddai'r tafarnwr fod ym mysg y Gwenieithwyr oddi tanom ni, eto [ewch[1]] ag e'r awron at ei gymheiriaid i gell y Mwrdwr[2] gwlyb, at lawer o Botecariaid a Gwenwynwyr, am wneyd diod i ladd eu cwsmeriaid; berwch yntau yn dda, eisieu iddo ef ferwi ei gwrw yn well.' 'Trwy eich cenad,' ebr y tafarnwr, tan grynu, 'ni haeddwn i ddim mo'r fath beth; ond rhaid i trad[3] fyw 'Ai ni allech chwi fyw,' ebr y Fall, 'heb gynnwys oferedd a chwareuon, puteindra, meddwdod, llyfon,[4] cwerylon, enllib, a chelwydd? ac a fynech chwi, hen uffern-gi, fyw bellach yn well na ninnau? Ertolwg, pa ddrwg sydd genym ni yma, nad oedd genyt tithau gartref, ond y gosp yn unig? Ac o ddywedyd i chwi'r caswir yma, nid oedd y gwres a'r oerfel uffernol ddyeithr i chwi chwaith. Oni welsoch wreichionen o'n tân ni yn nhafodau'r tyngwyr, a'r ysgowliaid wrth geisio eu gwŷr adref? Onid oedd llawer o'r tân anniffoddadwy yng ngheg y meddwyn, yn llygad y llidiog, ac yng ngaflach y butain? Ac oni allasech weled peth o'r oerfel uffernol yng ngharedigrwydd yr oferwr; ac yn sicr yn eich mwynder eich hun tuag atynt, tra pharhai ddim ganddynt; yn ysmaldod y gwawdwyr; yng nghlod y cenfigenus a'r athrodwr; yn addewidion yr anllad; neu yng nghroesau'r cymdeithion da, yn fferu tan eich byrddau? Ai dyeithr genyt ti uffern, a thithau yn cadw uffern gartref? Dos, fflamgi, at dy benyd.'

Yn hyn, dyma ddeg o gythreuliaid yn bwrw eu beichiau ar llawr tanbaid, tan erthwch[5] yn aruthr. Beth sy genych yna?' ebr Luciffer. Mae genym,' ebr un o'r ceffylau cythreulig, 'bump o bethau a elwid echdoe yn freninoedd.' (Edrychais lawer a welwn i Lewis o Ffrainc yn un.) Teflwch hwy yma,' ebr y brenin. Yna taflwyd hwy at y penau coronog ereill tan draed Luciffer.

Nesaf i'r breninoedd, daeth y Gwyr llys a'r Gwenieithwyr lawer. Bwriwyd y rhai hyn bob un tan din[6] ei frenin ei hun, fel yr oedd y breninoedd tan dinau'r diawliaid, yng nghachdy

  1. Nid yw 'ewch' yn arg. 1703; ond ymddengys mai gwall oedd ei adael allan, gan fod yr ystyr yn gofyn am dano.
  2. Mwrdwr'=murder: llofruddiaeth, murn.
  3. 'Trad'=trade; masnach, trafnid; galwad, galwedigaeth.
  4. Llyfon'=llwon.
  5. Erthwch'=dyhëu; tuchan.
  6. Nid yw y gair hwn mor werinol yng Ngwynedd ag yn y Dehenbarth; ac ymddengys nad oedd cyfieithwyr hybarch yr Ysgrythyrau i'r Gymraeg (y rhai, oddi eithr Huet, oeddynt Ogleddwyr) yn ystyried fod dim gwerinaidd neu serthus ynddo yn eu hamser hwy. Gwel Esa. xx. 4. Gellid gwneuthur sylw gogyffelyb ar amryw eiriau ereill sy'n dygwydd yn y gwaith hwn.