Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Luciffer. Ond yr oedd rhan o'r bawdy o tan y diawliaid gwaelaf, lle yr oedd y Witsiaid, fel gynt ar nos Iau, felly fyth yn cusanu tinau yr ellyllon.

Ni ches i fawr ymorol, na chlywn i ganu cyrn pres, a gwaeddi, 'Lle! lle! lle!' Erbyn aros ychydig, beth oedd ond gyr o wyr y Sessiwn,[1] a diawliaid yn cario cynffonau chwech o Ustusiaid, a myrdd o'u sil, yn gyfarthwyr,[2] twrneiod, clarcod, recordwyr, beiliaid, ceisbyliaid, a checryn y cyrtiau. Bu ryfedd genyf na holwyd un o honynt; ond deallodd y rhai hyn fyned o'r mater yn eu herbyn yn rhy bell; ac felly ni agorodd un o'r dadleuwyr dysgedig mo'i safn; ond Cecryn y Cyrtiau a ddywed y rho'i gwyn camgarchariad yn erbyn Luciffer. "Cewch gwyno trwy achos weithian,' ebr y Fall, 'a bod fyth heb weled cwrt â'ch llygaid.' Yna gwisgodd Luciffer ei gap coch yntau, ac â golwg drahaus-falch anoddef, 'Ewch,' ebr ef, 'â'r Ustusiaid i ystafell Pontius Pilat, at Meistr Bradshaw, a fwriodd y Brenin Charls. Sechwch y Cyfarthwyr gyda mwrdrwyr Syr Edmwnt Buwri Godffri,[3] a'u cymheiriaid daueiriog ereill, a gymmerent arnynt ymrafaelio â'u gilydd, dim ond i gael lladd y sawl a ddêl rhyngddynt. Ewch, ac anerchwch y cyfreithiwr darbodus hwnw, a gynnygiodd wrth farw fil o bunnau am gydwybod dda, gofynwch a ro'i ef yr awron ddim ychwaneg. Rhostiwch y Cyfreithwyr wrth eu parsmant[4] a'u papyrau eu hunain, oni ddêl eu perfedd dysgedig allan; ac i dderbyn y mygdarth hwnw, crogwch y Cyrtwyr cecrus uwch ei ben, â'u ffroenau yn isaf yn y simneiau rhost, i edrych a gaffont fyth

  1. Sessiwn session; assizes: brawdlys, proflys, brawdle.
  2. Anhawdd gwybod yn iawn pa ddosbarth o wyr y gyfraith a anrhydeddir â'r enw cyfarthwyr. Gellid meddwl nad yw, mewn ambell fan, ond gair arall am gyfreithwyr: eithr yn y wahanran hon, ychydig yn y blaen, crybwyllir am y naill a'r llall o honynt, a derbyn pob un ei briodol gosp. Tebygol, gan hyny, mai dadleuwyr, neu foneddigion y bar,' a olygir; ac nid ystyrir eu holl hyawdledd ddim amgen na chyfarth. Cymh. t. 27-O'r cyfarthwyr hyd at y ceisbwl.'
  3. Syr Edmondburi Godffrey oedd heddynad nodedig yn amser Carl II., a bu dra diwyd i gael allan y Cydfrad Pabaidd oedd ar droed y pryd hwnw. Buan wedi hyny cafwyd ef yn farw, wedi ei drywanu â'i gleddyf ei hun. Bwrid ei alanas ar y labyddion; ac o herwydd hyny, claddwyd ei weddillion gyda gwychder mawr. Dygwyddodd ei drancedigaeth, Hydref 17, 1678.
  4. 'Parsmant'=parchment: memrwn; croen i neu wedi ysgrifenu arno.