Yn y Morlwyau neu Llwylys a Llys y bystwn y mae y cibau yn cael eu rhanu ar eu traws yn y man lletaf. Tyf y Morlwyau ar fin y mor ac mewn morfeydd; tra y tyf Llys y bystwn mewn lleoedd sych. Blodau mân gwynion sydd i'r holl lysiau byr-gibawg hyn. Mewn rhai lleoedd creigiog yn Nghymru ceir math o Lys y bystwn âg iddo flodeuyn melyn; ond pur anaml y deui'r o hyd i hwn.
Llwyth—Y Crinllys neu'r Gwiolydd.
CYLCH ALLANOLrhanau 5, rhydd.
CYLCH MEWNOLrhanau 5, rhydd.
BRIGER5, rhydd.
PALADRffrwyth-ddail 3, unedig.
Yn y llwyth hwn y mae rhanau y blodeuyn y gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd yn eu ffurf a'u maint. Y mae dalen isaf y cylch mewnol yn fwy ei maint na'r lleill, ac y mae ei bon yn ymffurfio i fath o bigwrn ceuol, yn yr hwn y mae y mel yn ymgasglu. Y mae y briger wedi eu cyssylltu wrth eu gilydd o gylch y baladr. Blodeuyn gwyn pêrsawrus sydd i'r Crinllys. Y mae blodeuyn glas Fioled y cwn neu Pen y neidr yn ddigon cyffredin ar hyd y cloddiau yn y gwanwyn a'r haf. Y mae blodeuyn Gwiolydd y gors yn lasgoch a'i ddail yn frasach na'r lleill. Nid y blodeu glas prydferth hyn sydd yn dwyn had ond bledeu bychain distal ereill sydd yn ymddangos yn ddiweddarach.
Y mae blodeuyn amryliw Llys y Drindod neu'r Trilliw yn ddigon adnabyddus. Ceir amrywiaeth o hono a blodeuyn melyn yn tyfu ar leoedd uchel a mynyddig.