Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwyth—Menyg y Gog neu Llys y Poer.

CYLCH ALLANOLrhanau 5, weithiau'n unedig
CYLCH MEWNOLrhanau 5, rhydd.
BRIGER10 yn ddau gylch o 5 yr un.
PALADRffrwyth-ddail, 3, unedig,

Mewn rhai o flodau y llwyth hwn y mae rhanau y cylch allanol yn gyssylltiedig; ac y mae y blodeu-ddail yn aml yn ymwahaniaethu i goes a lafn. Y mae'r hadgell yn ungellog, a'r had wedi eu gosod ar begwn yn nghanol y gell yn rhydd oddiwrth ei ymylon. Y mae y dail wedi eu gosod yn ddwy a dwy gyferbyn a'u gilydd.

Yn y Glydlys, neu Menyg y gog, a'r Lluglys neu Flodeuyn y fran, y mae rhanau y cylch allanol yn gyssylltiedig. Y mae tri brigyn i baladr y blaenaf, a phump i un yr olaf. Y mae cysswllt y cylch mewnol yn aml dipyn oddiwrth gysswllt y cylch allanol, oherwydd fod pegwn y blodeuyn wedi ymestyn.

Blodeuyn gwyn sydd i'r Glydlys, ac un coch sydd i'r Lluglys. Ceir un amrywiaeth o'r Lluglys ag iddo flodeuyn gwyn Gelwir hwn weithiau yn Lluglys y nos am fod eu flodeu yn agor gyda'r hwyr. Blodeuyn unrhyw ydyw; y mae ei baladr a'i friger ar lysiau gwahanol. Tybir fod y blodeuyn hwn wedi cymeryd lliw gwyn am mai gwyfyn sydd yn ymweled ag ef ac yn eu ffrwythloni drwy gludo y blawd o'r blodeu brigerog i'r rhai paladrog. Gan na fedr y pryf hwn, sydd yn dyfod allan gyda 'r hwyr, weled ond lliw gwyn yn unig y mae blodeuyn Lluglys y nos, er sicrhau eu wasanaeth, wedi cymeryd y lliw hwnw. Y mae yna un arall hefyd a elwir Llys yr ychen ag iddo flodeuyn unrhyw o liw coch. Tyf Blodeuyn y fran mewn gweir gloddiau laith. mae yn hawdd ei adwaen wrth ei