Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flodeu-ddail rhwygedig. Ceir blodeuyn braf weithiau mewn caeau llafur tua Gorphenaf a Medi. Y mae danedd y cylch allanol yn wlanog ac yn hwy na'r blodeu-ddail rhuddgoch. Bulwg y gelwir hwn.

Y mae yn perthyn i'r llwyth hwn amryw o lysiau bychain ereill a rhanau y cylch allanol yn rhydd. Gwelir eu blodau bychain gwynion yn britho y perthi fel mân ser gloew. Y mae y Gwlydd, Brechlys, Clust llygoden, Tywodwlydd, Troellig, a Thafod yr edn yn ddigon cyffredin yn mhob man. Y mae blodeuyn cain Tafod yr edn yn fwy na'r lleill. Derbynia y llysieuyn hwn ei enw oddiwrth ei ddalen hirfain. Gwel Dar. xv., 13.

Llwyth—Yr Eurinllys.

CYLCH ALLANOLrhanau 5, rhydd.
CYLCH MEWNOLrhanau 5, rhydd
BRIGERlliosog, amlgysswllt.
PALADRffrwyth-ddail 3, unedig.

Y mae dail y llysiau hyn, pa rai sydd yn llawn ysmotiau bychain, wedi eu gosod yn gyferbyniol fel rhai y llwyth blaenorol. Y mae'r had-gell yn ddwy-gellog, a'r had wedi eu gosod ar begwn yn y canol. Y mae y briger wedi eu cyssylltu yn sypynau a'u gosod gyferbyn a'r blodeu-ddail. Gwel Dar. xxiii.

Yn y Creulys bendigaid neu Ddail y twrch y mae y briger yn bum' set; yn yr amrywiaethau ereill y maent yn dair set. Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng llysiau y llwyth hwn. Amrywiant ychydig yn maint ac amlder eu blodeu, a ffurf eu cyffiau. Y mae yr ysmotiau yn bur amlwg yn y Candoll, y maent yn ymddangos fel tyllau bychain duon. Enw arall ar y Creulys bendigaid ydyw Gwaed y gwyr. I'r llwyth hwn y perthyn y llysieuyn Tê.