Llwyth—Yr Hoccys.
CYLCH ALLANOLrhanau 5 cyssylliedig.
CYLCH MEWNOL.5 ar y briger
BRIGERlliosog, cyssylltiedig eu bonion a rhyddion eu penau
PALADRffrwyth-ddail lliosog, cyssylltiedig
Ychydig lysiau sydd yn perthyn i'r llwyth hwn. ran amlinelliad y mae eu dail yn weddol grwn—y maent yn rhwygedig mewn un math ac yn lled-gyfain mewn ereill. Coch ydyw lliw eu blodau. Y mae y cylch allanol yn ymddangos yn ddwbl oherwydd y tair dalen sydd wedi eu gosod o'r tu allan iddo. Y mae y briger yn cyssylltu wrth eu bonion ac yn ffurfio ffunel o amgylch coes y baladr. mae eu penau yn rhyddion, ac nid oes ond un blawd-gell ar flaen pob un. (Gwel darlun xx a.) Y mae eu ffrwyth-ddail liosog yn gyssylltiedig, ond pan yn addfed y maent yn hollti oddiwrth eu gilydd. Tyf yr Hoccyswydden mewn lleoedd creigiog ar lan y mor.
Llwyth—Pig yr aran
CYLCH ALLANOLrhanau 5, rhydd.
CYLCH MEWNOLrhanau 5, rhydd.
BRIGER5 neu 10, uncysswllt.
PALADRfrwyth-ddail 5, unedig.
I'r llwyth hwn y perthyn gwahanol amrywiaethau Pig yr aran a Phig y creyr. Y mae eu blodau o liw coch ac yn hynod am y pigyn hir main sydd i'r ffrwyth-ddail. Ar ol blodeuo y mae pig y ffrwyth yn aml o ddwy i dair modfedd o hyd. Pan yn addfed, y mae ffrwyth Pig yr