Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWERSI MEWN LLYSIEUEG.

RHAGARWEINIAD.

Y MAE yn anhawdd rhoddi deffiniad cywir a chyflawn o lysieuyn gan ei bod yn anmhosibl canfod y terfynau sydd yn gwahanu y byd mwnawl, y byd llysieuol, a'r byd anifeilaidd oddiwrth eu gilydd. Gwir fod digon o wahaniaeth rhwng llysiau y maes a'r creaduriaid sydd yn ymborthi arnynt, ac fod gagendor mawr wedi ei osod rhwng y byd organaidd a'r byd anorganaidd—sef, rhwng mater byw a mater marw. Ond pan y disgynir i lawr yn ngraddfa bodolaeth y mae y ddau fyd organaidd megys yn rhedeg i'w gilydd ac yn cyd—gwrdd ar gyffiniau y byd anorganaidd. Mae nodweddion a gwahaniaethau y byd llysieuol a'r byd anifeilaidd yn dyfod yn llai—llai o hyd wrth fyned i lawr, nes o'r diwedd y mae yn anmhosibl, nid yn unig i wahaniaethu rhwng deiliaid y ddau fyd, ond hefyd i sicr— hau nad ydym wedi croesi y llinell derfyn a chyrhaedd y byd anorganaidd. O dro i dro y mae gwybodaeth eangach a manylach yn ei gwneud yn angenrheidiol i gyfnewid dosbarthiad bywedigion, yn enwedig yn mhlith y rhai isaf, pa rai sydd megys yn ffurfio math o ddolen-gydiol rhwng y byd llysieuol a'r byd anifeilaidd. Pan y deuir o hyd i fywiolyn am y waith gyntaf petrusir yn aml parth ei safle briodol yn y byd organaidd. Myn un mai eiddo'r byd llysieuol yw; haera arall mai eiddo'r anifeilaidd yw; ac, hwyrach y daw pleidwyr y byd anorganaidd yn mlaen gan hawlio perthynas agosach na'r naill na'r llall. Dywedant, ac weithiau profant, mai crisial yw !