Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym wedi crybwyll eisoes fod yr haenau yn amrywio yn ol fel y maent yn cael eu gwneud i fyny o gelloedd gwahanol. Y mae rhai o honynt yn cael eu cyfansoddi o gelloedd hirfain, ac ereill o gelloedd crwn neu ysgwar. fod y gwahanol gelloedd hyn yn anweledig i'r llygad noeth, eto, ond tori unrhyw gyff ar ei hyd fe ellir canfod y gwahaniaeth sydd yn cyfodi oddiar gyssylltiad nifer o honynt yn y rhisgl, y rhuddin, y pabwyryn, a'r gwythienau

DAR. III. Cyff wedi ei dorri ar ei hyd er dangos celloedd y gwahanol haenau.

Y gell ydyw preswylfod bywyd. Y mae yr holl lysieuyn, fel yr ydym wedi dyweyd yn barod, yn cael ei ffurfio trwy gyduniad llu aneirif o'r celloedd bychain anweledig hyn; ond y mae llawer o lysiau sydd yn isel iawn yn ngraddfa bodolaeth yn cael eu ffurfio o un gell unigol ; ac y mae rhai o honynt yn anfesurol llai eu maint na'r mân—hedion a welir yn gwibio yn mhelydr yr haul. Er nad oes yn Natur oll breswylfod y gellir nesu ato yn nes na phreswylfod bywyd, eto, erys bywyd ei hun yn ddirgelwch anchwiliadwy. Weithiau ceir y protoplasm yn amddifad o'i amwisg, ac fe'i gwelir yn swp llyfol yn gwefreiddio gan fywyd. Gellir arsyllu arno yn ei noethder, ei ddadansoddi i'w elfenau sylfaenol, a'i gyfansoddi o honynt drachefn: ond, nis gellir ei gynysgaeddu ar hyn sydd yn ei wneud yr hyn ydyw.