Yn mharthau isaf y byd organaidd ceir llu o amryfath lysiau yn hollol anweledig i'r llygad noeth. Eto, er mor rhyfeddol eu bychander, y mae iddynt le pwysig yn ngoruchwyliaeth Natur. I un dosbarth o honynt y perthyn y gwaith o lefeinio; i arall y perthyn y gwaith o greu malldod, yn ystyr gywiraf y gair; y mae ereill drachefn yn ymosod a'r bob peth byw yn llysieuyn ac anifail—gan wneud difrod ofnadwy arnynt drwy achosi heintiau peryglus a dinystriol.

Preswyliant yr awyr fel lleng o ysprydion drwg; heigiant y dyfroedd; glynant wrth ddan— edd creaduriad; a lliwiant yr eira gwyn yn waedgoch gan amledd eu rhif. Cyfansoddir pob un o'r anweledigion hyn o gell lysieuol, neu restr o'r cyfryw gelloedd. Adgen— hedlant mewn modd syml: ymhollta'r celloedd, a chyrhaedda pob rhan ei chyflawn faintioli a'r fyrder. Y maent yn byw yn fintëoedd, a cheir fod mintëoedd o wahanol rywogaethau