II. Y GWRAIDD.
Y MAE rhai yn tynu llinell ar draws y byd llysieuol gan geisio gosod o un tu iddi y llysiau hyny sydd a'u cyfansoddiad yn ymwahaniaethu i amrywiol ranau neu aelodau, ac o'r tu arall, y rhai hyny sydd a'u cyfansoddiad yn syml ac anghymleth, ac heb fod yn dangos y fath ymwahaniaethiad i amrywiol ranau. Ond, yn unol ag egwyddorion dadblygiad, y mae yn anhawdd penderfynu yn mha le i osod y llinell, oherwydd fod haniad ac amlygiad yr amrywiol aelodau yn cymeryd lle mor raddol, o'r llysieuyn mwyaf syml ac unffurf i'r un mwyaf cymleth, fel y mae y fath ddosbarthiad yn anmhosibl, Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng y ffwng a elwir Clustiau'r Derw a'r Dderwen ei hun, ond y mae y ddau eithafion hyn yn cael eu cyssylltu gan ereill sydd yn esgyn yn raddol o'r ffwng i'r dderwen.
Y gwreiddyn ydyw y rhan hwnw o'r llysieuyn sydd yn ei sicrhau yn y ddaear, ac yn tynu maeth iddo o honi. Y mae yn osgoi goleuni, ac nid ydyw yn cynyrchu dail. Rhydd allan ar hyd ei ochrau lu o fân—wraidd bychain, tebyg i edafedd, pa rai sydd yn gweithio eu ffordd drwy'r ddaear i bob cyfeiriad, ac yn ei alluogi i oresgyn tir newydd yn barhaus. Trwy gymorth y rhai'n treiddia y gwreiddiau i bob man. Ni wnant byth ildio; ac ni roddant ffordd mewn un man, ond er enill man arall. Os yw y ffôs yn rhy lydan i'w chroesi nid yw yn rhy ddofn iddynt fyned oddi tani. Er eu bod yn dechreu yn ddistadl ac yn gweithio o'r golwg yn ddidrwst, eto, dengys amser nad oes na chastell na chaer fedr wrthsefyll dylanwad yr offerynau eiddil hyn