ond mater treiddiadwy rhyngddynt, yn hydreiddio i'w gilydd ac yn ymgymysgu nes y byddo eu dwysder yn gyfesur. O dan yr amgylchiadau hyn sefydlir math o gylchrediad rhwng gwlybwr tew ac un teneuach. Yr ydym wedi dangos eisoes fel y mae'r gwreiddyn wrth ymlwybro drwy'r pridd yn glynu wrth ranau o hono. Mor dyner ydyw y gwreiddiau bychain edafeddog hyn, fel y mae'r gronynau mwnawl yn suddo iddynt pan wasgant ar eu traws. Rhyfeddir yn aml pa fodd y mae'r llysieuyn yn dal heb wywo pan fyddo'r ddaear yn ymddangos i ni yn grasboeth bron. Fodd bynag pe gwnaem archwiliad manwl o'r pridd fe gaem fod pob tipyn o hono yn cael ei amgylchynu gan ddwr. Mae haen deneu o ddwr yn hulio pob gronyn mwnawl, bydded mor lleied ag y bo; ac y mae'r dwr hwn ynghyd a'r surnwy sydd ynddo yn prysuro dadfeiliad y mwnau.
Yn awr, y mae'r halenau sydd yn doddedig yn sudd y gwraidd yn ei wneud yn dewach na'r dwr sydd oddi allan o gylch y gronynau mwnawl, ac y mae, mewn canlyniad, yn sugndynu y gwlybwr hwnw drwy'r croen i'r celloedd. Ar yr un pryd y mae peth o'r sudd tew yn treiddio allan drwy'r croen, ac yn dadansoddi'r mwnau nes y mae'r dwr sydd oddi allan yn cael ei drwytho ag elfenau cynhaliaeth i'r llysieuyn. Gwasgerir nwyoedd hefyd yn ol yr unrhyw ddeddf, pe amgen, byddai bywyd anifeilaidd ar y ddaear yn anmhosibl, oherwydd buasai y nwyoedd trymion sydd yn niweidiol iddo yn yr awyr, yn ymgasglu ar hyd wyneb y llawr yn haenau trwchus gwenwynig. Gwneir yr awyr i fyny, fel y gwyddis, o gymysgedd o wahanol nwyoedd; nid ydynt yn cyduno a'u gilydd yn y modd y mae'r elfenau sydd yn cyfansoddi dwr. Mae'r nwyoedd trymion sydd yn yr awyr, megys y surnwy, a rhai ysgafnach megys yr ufelai, yn gwasgaru ymhlith eu gilydd yn rhinwedd y gyneddf hynod hon sydd yn perthyn iddynt, a thrwy hyny gwrthwe thia y naill ddylanwad