Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynorthwyo i ymwthio i fyny a chyrhaedd y goleuni. Ceir rhai fel y Gwinwydd, Clych y perthi, a'r Hopys yn dirwyn a dringo ar hyd planhigion ereill cyfagos; mae y Pys yn meddu math o linynau sydd yn dirwyn oddiamgylch y coed a ddelont i gyffyrddiad ag hwynt, ac y maent fel hyn yn rhwymo a chynal y cyff eiddil fel y mae yn ymestyn i fyny; mae y drain sydd ar hyd cyff y Mieri yn ei gynorthwyo yn yr ymdrech am oleuni yn mhlith y brysglwyni tew, drwy grebachu am ganghenau ereill. Sylwer fod ffurf y drain yn ei gwneud yn anhawdd i'r cyff eiddil syrthio yn ol unwaith y byddont wedi bachu am ganghenau ereill cyfagos. Y mae y cyffiau hyny sydd yn dirwyn ar hyd planhigion ereill yn dirwyn bob amser i'r un cyfeiriad. Dirwyna cyff y Taglys i'r aswy, a chyff yr Hopys i'r ddeheu.

Cyfansoddir y cyff o wahanol haenau wedi eu gosod wrth eu gilydd fel y dengys darlun iii. Y mae pob un o'r haenau hyn drachefn yn cael ei wneud i fyny o'r celloedd bychain a ddesgrifiwyd mewn penod flaenorol.

Pe torrem gyff derwen ieuangc ar ei draws, fe gaem weled yn y canol, y pabwyryn, yna y pren, ac o'r tu allan y rhisgl, canfyddem hefyd fod y pren sydd nesaf i'r canol yn gwahan— iaethu oddiwrth yr hwn sydd nesaf i'r rhisgl. Y mae y rhan nesaf i mewn o'r pren, a elwir rhuddin, yn fwy durfin a thywyll na'r rhan nesaf i'r rhisgl, a elwir gwyning. Eto, pe rhoddem lafn o'r cyff dan y mwyadur caem weled fod y pren a'r rhisgl yn cynwys amryw haenau ynghyd a gwyth— ienau o amrywiol fathau yn rhedeg drwyddynt. Rhwng y rhisgl ar pren ceir haen deneu o gelloedd hirfain iraidd, (c yn dar iii a vii), pa un sydd yn cyssylltu yn ogystal a gwahaniaethu y rhisgl oddiwrth y pren. Y mae yr haen wydn a bywiog hon—ar ba un y rhoddwn yr enw tirfhaen—yn cynyrchu celloedd newydd o bob tu. Ychwanegir y rhai a gynyrchir ar yr ochr allanol at y rhisgl; a'r rhai a