Prawfddarllenwyd y dudalen hon
gynyrchir ar yr ochr fewnol at y pren. Mae yr haen gyn— yrchiol hon yn rhedeg yn gylch o'r naill ben i'r llall o'r llysieuyn nes y mae yn ymgolli yn flaenfain yn y celloedd sydd yn blaendarddu yn y brig a'r gwraidd. Yn rhinwedd yr haen hon y mae'r llysieuyn yn gwella ei archollion, a'r garddwr yn impio y naill blanhigyn i'r llall.

DAR. VII. Cyff Pig yr Aran (ar draws).
Y mae croen celloedd y pren yn dew, ac y mae yr hylif bywiol wedi diflanu yn raddol o honynt fel nad ydynt mwyach yn alluog i gynyrchu celloedd newydd; ond y maent eto o wasanaeth pellach i'r llysieuyn drwy ychwanegu ei gadernid a'i sythni. Y mae yn eglur oddiwrth y modd y mae y cyff yn cynyddu, fod celloedd hynaf y pren yr ochr nesaf i'r