Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galon, ac fod celloedd hynaf y rhisgl ar ei ochr allanol. Pan fyddo rhisgl y coed wedi colli ei ystwythder, ac yn analluog i ymestyn yn gyfatebol i gynydd y pren, y mae ei ochr allanol yn cracio a rhwygo.

Ymddengys fod y dwr yn esgyn o'r gwraidd i'r dail drwy yr haenau prenaidd o'r cyff, ac nid drwy y rhai îr a rhisglaidd fel y tybir yn gyffredin. Pe byddai i ni dorri ymaith gylch o'r rhisgl oddiwrth y cyff, ni fyddai i'r dail ddioddef dim mewn canlyniad ; ond pe torrem hefyd gylch o'r gwyning ymaith gyda'r rhisgl fe fyddai i'r dail wywo, oherwydd fod rhediad y dwr wedi pallu. Dengys arbrofion pellach fod y dwr yn esgyn, nid yn unig drwy yr haenau allanol yma o bren y cyff, ond hefyd drwy ranau neillduol o honynt, neu ei fod, o leiaf, yn esgyn yn llawer mwy rhwydd a chyflym drwy rai rhanau nac ereill o'r gwyning. Ceir eglurhad pellach ar hyn yn y man.

Rhenir cyffiau yn gyffredin i ddau ddosbarth mawr, yn ol y modd y maent yn cynyddu yn eu maintioli—y mae cynydd pob rhyw gyff o ran ei drwch naill ai yn anmhenodol neu yn benodol. Gwasanaetha holl goed y wlad hon, fel engreifftiau o'r dosbarth blaenaf, ond nid oes genym engreifftiau cymwys o'r dosbarth arall oddieithr ein porfeydd a'n gwelltoedd. Yn y gwledydd poeth yn unig y ceir engreifftiau tarawiadol o gyffiau penodol. Mae yno amryw fathau o borfeydd, megys y pren siwgr, yn cyrhaedd maintioli llwyni mawrion. Mae cyffiau y bamboo, y palmwydd, a'r pren siwgr yn gyfrodedd o ran eu trwch fel gwellt, ond y mae cyffiau coed y wlad hon—gyda'r unig eithriad o'r brisglwynyn bychan a elwir Celynen Mair—yn llai praff o'r bôn tua'r blaen, Achosi'r y gwahaniaeth hwn gan drefniant gwahanol y gwythienau yn nghyffiau y ddau ddosbarth. Yn y rhai anmhenodol, y mae'r gwythienau wedi eu gosod yn gylch (darlun ix), ac y mae tirfhaen y naill wythien yn