cydio wrth y llall. Yn y cyffiau penodol y mae'r gwythienau ar wasgar (darlun viii), ac nid yw y dirfhaen yn ymddadblygu ynddynt. Oherwydd fod cynyrch y dirfhaen yn cael ei osod yn haen ar haen—fel y gwelir yn nghylchau y dderwen— dywedir fod y cyffiau anmhenodol yn tyfu neu yn cael eu cynyrchu yn allanol; ar rhai penodol, yn fewnol, am nad ydynt yn cynyddu yn eu trwch fel y rhai blaenaf. Hwy— hau o gwlwm i gwlwm wna rhai y dosparth olaf.


Yr ydys yn ddiau wedi sylwi ar y llinynau gwydn a welir wrth dorri coes y Llyriad neu y Tafol. Nid ydynt mor amlwg mewn prenau mawrion am eu bod yn cyfansoddi bron yr oll o'r cyff, ond y maent yn hawdd i'w canfod mewn planhigion tyner, neu geingciau. Efallai mai gwell. enw arnynt fyddai tasgellau; oherwydd cynwysant wahanol haenau wedi eu rhwymo wrth eu gilydd. Cyfansoddir y rhan fewnol o honynt o haen brenaidd a'r rhan allanol o haen risglaidd, a cheir tirfhaen rhwng y ddwy yn rhai y cyffiau anmhenodol, ond y mae yn absenol yn rhai y cyffiau penodol. Dengys darlun vii. y gwythienau hyn ar ffurf trionglog. Mae y gwythienau yn rhedeg yn rheolaidd drwy y cyff a'r canghenau i'r dail lle yr ymranant i fân-wythienau.