IV. Y DDALEN.
MOR amryfal a lliosog ydyw y dail sydd yn addurno'r greadigaeth. Mae nifer y gwahanol lysiau yn aneirif; ac y mae i bob rhywogaeth ei ddalen neillduol—yn gwahaniaethu oddiwrth yr eiddo ereill mewn ffurf, maint, defnydd, a lleoliad. Nid yn unig y mae i bob rhywogaeth o lysiau ei ddalen nodweddiadol, ond fe geir hefyd yn aml ar yr un llysieuyn amrywiol fathau o ddail. Mynych y dywedir na cheir dwy ddalen yn union yr un fath. Mae eu hamrywiaeth yn ddiarhebol; ond yr hyn sydd wir ryfeddol ydyw eu tebygolrwydd. Pan gedwir mewn cof yr hyn a ddywedwyd yn y benod gyntaf o berthynas i ranau elfenol y llysieuyn, y mae yn ddirgelwch anesboniadwy fod ei ddail afrifed yn cymeryd ffurf mor hynod o debyg i'w gilydd.
Arferid meddwl fod ffurfiau bywedigion yn sefydlog ac anghyfnewidiol er tragwyddoldeb; ac fod ei ffurf wedi ei arfaethu i bob peth byw unwaith am byth, ac na wnai wrth gynyddu ddim amgen na llanw rhyw gyfluniad rhagosodedig. Pan gyhoeddwyd damcaniaeth dadblygiad gwelwyd fod sylwadaeth fanwl yn gwrthbrofi y cyfryw grediniaeth, a mabwysiadwyd y ddysgeidiaeth newydd am ei bod yn egluro ffeithiau natur yn well na'r hen. Dysgai dadblygiad nad oedd delw un bywiolyn yn sefydlog a safadwy. Yr oedd pob beth byw yn ddarostynedig i gyfnewidiadau. Wrth edrych yn ol i'r gorphenol pell gwelai eu bod yn nhreigliad amser, yn raddol, raddol—o linach i linach— wedi colli eu ffurfiau cyntefig. Yn ol dadblygiad, nid yw ffurfiau amryfal y dail fwy na ffurfiau cyfnewidiol y cymylau,