Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond effaith achosion fu yn gweithredu yn eu hanes. Pa achosion sydd yn rhoddi eu cyfluniad i fywedigion, ni wyddis; ond bernir fod dau brif achos yn gweithredu arnynt—un yn fewnol a'r llall yn allanol. Yn fewnol, tybir fod rhyw yni cynhenid yn y bywiolyn sydd yn ymdrechu megys i gadw ei ddelw. A gwyddis o'r goreu fod dylanwadau ei amgylchedd yn ymosod arno o'r tu allan. Yn awr, gwers fawr dadblygiad yw, fod canlyniadau yr ymdrech—rhwng y mewnol a'r allanol—pa un ai er gwell ai er gwaeth, yn cael eu trosglwyddo i lawr, ac yn dyfod yn etifeddiaeth i'r naill hil ar ol y llall. Dywedyd gynt fod y pethau hyn yn cymeryd lle "yn reddfol;" dywedir yn awr eu bod yn cymeryd lle "yn etifeddol." Ond ni wna y naill frawddeg na'r llall ddeongli i ni ddim o ddirgel weithrediadau bywyd; nid ynt ond geiriau am bethau nas deallir.

Tybiai Goethe nad oedd holl ranau y llysieuyn ond ffurf wahanol ar ryw gynllun ddalen. Agweddai y ddalen ddych'mygol hono i wraidd a blodau, cyffiau a ffrwythau, a phob ryw arall ran o'r llysieuyn. Ceir engreifftiau o un rhan o'r llysieuyn yn trawsffurfio i ran arall yn ddigon cyffredin. Mae y ffurf a gymer y ddalen yn dybynu ar y gwaith y mae i gyflawni yn mywyd y llysieuyn.

Y dail sydd yn ymddangos gyntaf yn mywyd y llysieuyn ydyw yr egin-ddail neu'r had-ddail. Gwelir y rhai hyn pan fyddo'r hedyn yn egino. Rhodder fleuen neu fesen i egino mewn dwr a cheir gweled dwy ddalen laswyn, drwchus yn tori allan drwy'r plisgyn.

O'r ddwy ddalen drwchus yma y derbynia yr eginin ei faeth tra y mae eto yn rhy egwan i'w dynu o'r ddaear. Nid oes i'r had-ddail ond oes fêr; oherwydd diflanant ar ol i'r egin eu dihyspyddu a dyfod yn ddigon cryf i dynu ei gynhaliaeth o'r ddaear. Mae y llysiau sydd yn blodeuo ac yn dwyn had yn ymranu i ddau ddosparth mawr. Cynwysa y