naill ddosparth y llysiau hyny yn mha rai y ceir dwy had-ddalen yn yr hedyn; a'r llall y rhai hyny yn mha rai y ceir ond un had-ddalen yn yr hedyn. Y mae yn nodweddiadol o ddail y llysiau sydd yn meddu ond un had-ddalen fod eu gwythienau yn rhedeg yn syth a chyfochrog ar eu hyd; ac o'r rhai sydd yn meddu dwy had-ddalen fod eu gwythienau yn rhwydog, neu yn ymganghenu i wahanol gyfeiriadau


Ceir engreifftiau o'r dosparth cyntaf yn nail y brwyn, y gwenith, a'r porfeydd yn gyffredin; ac o'r ail ddosparth yn rhai y Dderwen, y Ffa, a'r Ffawydden.
Cyn myned rhagom i fanylu ar y gwyrdd-ddail, neu y dail cyffredin, priodol fyddai sylwi ar y cèn-ddail sydd yn eu gorchuddio tra y maent yn flagur ieuaingc. Mae cyfansoddiad durfin a lledraidd y cèn-ddail ynghyd â'r modd y mae y naill yn amdoi y llall, yn eu gwneud yn rhai tra pwrpasol i ddiogelu yr egin rhag niwed oddiwrth ddryccin.