llafn yn y modd hwn. Y mae weithiau, fel yn nalen y Sycamorwydden, Mantell Mair, a'r Griswyl, yn ymranu ac yn rhedeg i wahanol gyfeiriadau; bryd arall y mae yn ymgolli yn llwyr yn y man yr ymgyssyllta â'r llafn, fel yn nalen Llys y geiniog. Eto, ceir y llafn yn ddigon cyffredin yn ymgyssylltu yn uniongyrchol â'r gangen heb unrhyw goes o gwbl—megys yn nail y Brathlys. Ymddengys mai y rheol yw, fod nerth y brif—wythïen a threfniant yr îs—wythienau yn gyfatebol i hyd a ffurf y llafn. Gwel dar. xiv. a xv. rhif 1, 2, 3, 10, 11, 9, 7, 4 a 12. Ond am hyn rhagor eto. Mae coesau rhai dail yn lledu tua'r bôn nes ffurfio math o waen i'r gangen.
Yn y porfeydd y mae y waen yn llwyr amgylchu y cyff; mewn ereill, megys y Rhos a Chrafangc-y-fran, nid yw yn ei amgylchu ond mewn rhan. Fe geir wrth fôn coesau rhai dail, yn y man y maent yn ymgyssylltu â'r gangen, ddwy ddalen fechan, un o bob tu iddi. Yn y Gollen nid ydynt ond bychain iawn eu maint, a llwydgoch eu lliw; yn y Pys a'r Crinllys y maent yn llawer mwy eu maint, ac o'r un lliw a'r dail cyffredin; mewn rhai mathau o'r Ydbys y dail hyn ydyw yr unig rai sydd yn ymddadblygu ac yn ymledu yn llafnau; mae y dail priodol wedi dirywio i reffynau hirfain. Dail dirywiedig ydyw pigau y Pren Melyn, a'r Eithyn.
Cesglir oddiwrth y ffaith fod dail cynifer o lysiau yn ddi-goes, ac yn ymgyssylltu yn uniongyrchol â'r gangen, mai y llafn ydyw y rhan fwyaf anhebgorol o'r ddalen. Bernir mai prif ddyben y goes ydyw rhoddi ystwythder i'r llafn i blygu gyda'r gwynt fel na fyddo iddo gael ei rwygo ganddo. Mae natur cysswllt y ddalen â'r gangen yn gwahaniaethu yn fawr yn y dail sydd heb goes. Yn y Bresych, er engraifft, fe geir y llafn yn haner amgylchu y gangen; mewn ereill fe'i ceir yn ei lwyr amgylchu; mewn ereill drachefn ceir dwy ddalen gyferbyniol yn ymgyssylltu wrth eu bonion o gylch y gangen.