wahan ar hyd y cyff; ond y maent, er hyny, wedi eu gosod yn rheolaidd, er eu bod yn ymddangos yn ddidrefn a gwas— garog. Yn y Dderwen, er engraifft, os dirwynir llinyn o amgylch y gaingc o unryw ddalen neillduol, heibio i fon pob dalen nes y deuir drachefn gyferbyn â'r ddalen o'r hon y cychwynwyd, ceir fod y llinyn wedi rhoddi dau dro o am gylch y gaingc, ac fod yn y ddau gylch yma bum dalen Dynodir hyn yn fŷr drwy fligyrau fel y canlyn. 2/5 Y mae y rhif uchaf yn dynodi y troion, a'r rhif isaf nifer y dail yn y ddau gylch. Yn y Llwyfanen, y Ffawydden, a'r Pisgwydden, y trefniant ydyw 1/2; yn y Crydaethnen a'r Wernen; yn y Dderwen, y Rhos, yr Aethnen, a'r pren Afalau2/5; yn y Llyriad ac amryw o'r Pinydwydd 3/8. Y mae lleoliad y dail yn y modd hwn, nid yn unig yn drefnus, ond hefyd yn ddefnyddiol; canys y mae o'r pwys mwyaf i'r llysieuyn fod pob dalen wedi ei gosod yn y modd mwyaf manteisiol i gyflawni ei gorchwyl. Gan fod goleuni yr haul yn hanfodol angenrheidiol i'r llysieuyn y mae y ddalen—drwy ffurf ei llafn a'i lleoliad ar y gangen—ar ei goreu er cyfarfod yr angenrhaid hwn. Felly, ceir y dail bob amser yn gwynebu yr haul; mae arwynebedd y llafnau tuag i fyny, ac y mae y coesau yn eu pellhau oddiwrth y cyft rhag iddynt amdoi eu gilydd ac amddifadu o'r naill y llall o oleuni. Eto, pe buasai y dail wedi eu gosod yn blith draphlith ar eu gilydd ar y gangen, y mae yn eglur y byddai i'r naill rwystro 'r llall i gael cyflenwad priodol o oleuni ac awyr; a byddai i'r holl lysieuyn ddioddef mewn canlyniad i'r fath anrhefn.
Dybyna ffurf neu amlinelliad y ddalen, i raddau helaeth, ar gyfeiriad a'r modd y mae y gwythienau wedi eu gosod. Mewn rhai y mae'r brif-wythien yn rhedeg drwy'r canol; mewn ereill y mae amryw wythienau yn rhedeg o fôn y ddalen i wahanol gyfeiriadau. Y mae y prif wythienau hyn yn rhoddi allan wythienau llai drachefn, ac y mae