Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiangc pan fyddo mwyaf o angen am dano. Ond y mae ymchwiliadau diweddaraf yn dangos mai fel arall yn hollol y mae, sef eu bod yn agor o dan ddylanwad tywyniadau yr haul, ac yn cau pan na fyddo'r gwres yn disgyn arnynt. Pan y mae pelydrau'r haul yn disgyn ar y ddalen y maent yn ei gwresogi i raddau, ac yn cynyrchu agerdd o'r gwlybwr sydd ynddi. Yn awr, byddai yr agerdd hwn yn niweidiol i'r ddalen, a gwnai fwy neu lai o niwed ynddi oni bai am fod y chwysdyllau yn agored ar yr adeg y mae yn cael ei gynyrchu, Ac ymhellach, y mae yn wybodaeth gyffredin fod llysiau yn rhoddi allan nwy sydd yn hanfodol i'r bywyd anifeilaidd—ufelai, ac yn cymeryd i mewn nwy sydd yn niweidiol iddo—surnwy. O dan ddylanwad yr haul y mae y ddalen, yn rhinwedd y chlorophyll sydd ynddi, yn troi y gwlybyron maethol y mae wedi dderbyn i sylweddau llys— ieuig, ac wrth wneud hyny y mae y naill elfen—ufelai[1]— yn cael ei rhoddi allan; tra y mae y llall—carbon—yn cael ei ychwanegu at gyfansoddiad y llysieuyn. Eto, mae y chwysdyllau agored yn hyrwyddo rhediad gwlybyron maeth— ol o'r ddaear i'r ddalen drwy fod anweddiad rhan o honynt drwy'r chwysdyllau yn creu gwagder, ac yn gwneud lle i ragor i esgyn yn barhaus.

Wrth ystyried bychander y chwysdyllau hyn gallesid meddwl nad ydynt o fawr bwys yn mywyd y llysieuyn. Ond y mae natur fel rheol yn gwneud i fyny am fychander drwy amlder, a chyfrifir fod tua miliwn o chwysdyllau bychain anweledig ar wyneb isaf yn unig i ddalen y Bisgwydden. Ymddengys fod y chwysdyllau yn llawer lliosocach ar wyneb isaf y ddalen nac ar y wyneb uchaf, Felly, gan fod yr haen sydd nesaf i'r wyneb isaf yn fwy rhwydog a llaes, na'r haen sydd nesaf i'r wyneb uchaf, y mae'r awyr a'r nwyoedd sydd yn cael mynediad drwy'r chwysdyllau yn cael gwell mantais i wasgaru drwy'r ddalen oll.

  1. ocsigen