Sylwa Sach fod y gwythienau a'r mân-wythienau wedi eu gosod yn y modd mwyaf manteisiol yn mhob dalen yn ol ei ffurf, nid yn unig er cludo y nôdd i bob rhan o honi, ond hefyd er cynal a chryfhau y llafn. Ceir engreifftiau rhyfeddol o geinder a chryfder yn ngwythienau y dail.
Ymddengys fod cryfder y gwythienau yn gyfatebol i faintioli y llafn; oddieithr yn y dail hyny sydd yn nofio ar arwynebedd dyfroedd llonydd. Mae y prif-wythienau, pa rai sydd yn rhoddi ei sythni i'r llafn, yn rhedeg yn ei gyfeiriad hwyaf, ac yn ymranu yn gyfatebol i'w led. Er engraifft, mewn dail hirfain megys eiddo'r Glaswellt, a Phenau'r gwyr y mae y prif-wythienau yn rhedeg drwy y llafn a'r ei hyd; mewn dail hirgrwn, fel eiddo'r Gastanwydden a'r Dderwen, mae y brif-wythien yn rhoddi allan wythienau llai ar bob tu; mewn rhai crwn fel eiddo'r Hoccys a Mantell Mair ceir amryw wythienau tua chyfartal eu maint yn rhedeg i wahanol gyfeiriadau o ben y goes; mewn dai! tair— neu pum—rhanol, a rhai tair— neu bum—onglog fel eiddo'r Meillion a'r Masarn ceir cynifer o wythienau yn rhedeg i gyrrau pellaf y llafn. Dywed Sach, yn ei waith clasurol ar Anianaeth Llysieu, fod hyd yn od y mân-wythienau sydd yn ymwều rhwng gwythienau mwy, wedi eu gosod mewn modd rhyfeddol o bwrpasol er gwasanaethu y ddalen. Os cymmer neb ddigon o ddyddordeb yn hanes y ddalen i fyned i'r goedwig yn y gauaf i chwilio am ei ysgerbwd bydd y cywreinwaith a ddargenfydd ynddo yn sicr o foddloni y disgwyliadau mwyaf aiddgar. Mae y gwythienau mwyaf, fel cynifer o bileri a throsolion, yn cynal y llafn ac yn rhoddi ei gadernid iddo; cedwir y rhai hyn drachefn yn eu lle gan y mân—wythienau sydd yn croesi rhyngddynt fel canllawiau. Mae y prif-wythienau yn rhoddi ei sythni i'r llafn gwyrdd, yr hwn sydd yn rhy dyner i sefyll yn lled— anaidd o hono ei hun; ac y mae y rhwydwaith o