fân-wythienau yn atal y gwynt i'w rwygo rhwng y rhai mwy. Fe geir hefyd fod math o wrym ar hyd ymyl y ddalen, pa un sydd yn rhoddi cryfder ychwanegol i'r llafn i wrthsefyll curiadau y gwynt.
Y mae y Gerddinen neu y Criafallen yn perthyn i'r un llwyth a'r Afallen a'r Perbren; ond y mae dail yr Afallen a'r Perbren, fel y gwyddis, yn gyfain, neu yn un-lafnog, tra y mae dail y Gerddinen (Mountain Ash) yn amryw-lafnog fel dail yr Onnen (Ash). Awgryma Syr John Lubbock fod y gwahaniaeth hwn rhwng dail prennau yr un llwyth i'w briodoli i'r ffaith fod y Gerddinen yn tyfu, fel y golyga yr enw Seisnig, ar leoedd uchel, ac ei bod felly yn fwy agored i ymosodiadau y gwynt; ond gan fod y ddalen wedi ei rhanu i gynifer o fân-ddail nid yw y gwynt yn cael yr un mantais arni ac a gawsai ar ddalen gyfan, un—lafnog o'r un maintioli. Ni ellir, fodd bynag, gymhwyso yr un esboniad at amryw o lysiau ereill a geir yn tyfu o dan amgylchiadau cyffelyb, a'u dail yn gwahaniaethu fel eiddo y rhai uchod. Er engraifft, mae i un math o'r Hoccys ddalen gron, ac i arall ddalen rhwygedig; a cheir rhai mathau o lysiau Pig yr Aran ac iddynt ddail rhwygedig fel rhif 5, dar. xiv., ac ereill a dail crwn tebyg i rhif 4. dar. xiv. Nid oes dim a ddaw drwy'r ddaear yn tyfu yn fwy trwchus yn eu gilydd na'r porfeydd. Dywed un awdwr mai cystadleuaeth erwin am le rhwng y glaswellt sydd yn gyfrifol am ffurf hirfain eu dail.
Mae dail y Toddaidd rûdd neu'r Gwithlys a dail y Toddaidd melyn yn mhlith yr hynotaf a geir yn y wlad hon. Ceir darluniau cyflawn o'r ddau lysieuyn mewn man arall. Portha y llysiau hyn ar wybed a phryfed bychain ereill a ddelir gan y dail, pa rai sydd wedi eu cynysgaeddu a sylwedd gloew glydiog er eu denu a'u dal. Mae dalen y Toddaidd rûdd yn llawn bysedd bychain pa rai sydd yn cau