Y mae dail mwyafrif coed yr hinsoddau cymedrol yn syrthio yn yr hydref; ac y mae dail y coed bytholwyrdd a geir yn y gwledydd hyny wedi eu haddasu yn bwrpasol i ddal dryccin y gauaf. Ni erys gwlybaniaeth ac eira ar ddail llyfn a gloew y Celyn a'r Iorwg fel y gwna ar ddail mwy garw a blewog. Diameu hefyd fod anamlder y coed sydd yn wyrdd yn ystod y gauaf yn eu gosod yn fwy agored i ymosodiadau oddiwrth greaduriaid geisiant ymborthi arnynt; ac eu bod mewn canlyniad yn yn ddadblygu rhyw foddion neu gilydd er hunan—ymddiffyniant.
Felly ni gawn fod dail y Celyn yn bigog; a'r Iorwg yn ceisio diogelwch, efallai, drwy ddringo i fyny ar hyd rhywbeth cyfagos; tra y mae ereill yn wrthodedig am eu bod yn wenwynig neu yn llawn arogl adgas. Cawn nodi rhai hynodion ereill ynglyn a dail amryw lysiau wrth ddyfod ar eu traws yn y penodau dilynol. Ni ddisgwylir i'r braslun anrhefnus hwn fod yn rhagor na rhagarweiniad i gyfrol ddihyspydd Natur lle yr amlygir—
"Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail."