Y CYLCH ALLANOL.
Un o ffurfiau mwyaf cyffredin y cylch allanol ydyw tebyg i eiddo'r Crafangc y fran, sef un rhes o ddail bychain gwyrdd o amgylch godreu'r blodeuyn. Yn mlodau y Syfi ac ereill, y mae yn cynwys dwy res.
Yn y blodau hyn y mae y rhanau sydd yn gwneud i fyny y cylch yn rhyddion oddiwrth eu gilydd, hyny yw, y mae dail y cylch allanol yn anghyssylltiedig. Mewn ereill, megys blodau'r Crwyn llys, Ffa'r gors, a'r Briallu, y mae rhanau y cylch yn gyssylltiedig. Sylwer fod y cyssylltiad sydd rhwng y dail cyfansawdd yn llwyrach mewn rhai mathau o flodau nac ereill. Y mae y cylch hwn weithiau yn gyssylltiedig wrth y baladr, megys yn y Ffenigl, a'r Efwr, a'r Triaglog. Yn mân-flodau Dant y llew a llysiau cydryw y mae yn anhawdd canfod y cylch allanol o gwbl gan mor agos y mae yn glynu wrth y baladr. Mewn blodau ereill y mae yn rhydd oddiwrth y baladr, megys yn y Briallu a Chrafangc y fran.
Y CYLCH MEWNOL.
Yn mlodeuyn Crafangc y fran a'r Syfi, er engraifft, y mae y cylch mewnol yn cynwys rhes o ddail anghyssylltiedig. Yn mlodeuyn y Briallu, Ffa'r gors, a'r Clychlys, y mae y rhanau yn gyssylltiedig. Y mae lleoliad y cylch hwn naill ai oddiar, oddiamgylch, neu odditan y baladr. Yn y Briallu, y Lluglys, a Chrafangc y fran, y mae y cyssylliad odditan y baladr; yn yr Helyglys, y Pys, a'r Grwyswydd, oddiamgylch y baladr; ac yn y Clychlys, Dant y llew, a'r Ffenigl, oddiar y baladr.
Fel rheol, y mae nifer rhanau y ddau gylch yn gyfartal; ac yn mhellach, y mae y gwahanol rywogaethau o lysiau yn cael eu nodweddu gan nifer arbenig. Tri ydyw nifer nodweddiadol y llysiau hyny sydd yn meddu ond un had-ddalen, megys Brwyn, Cenin Pedr, a'r Lili. Nifer nodweddiadol