y mwyafrif o'r rhai hyny sydd yn meddu dwy had-ddalen ydyw pump. Pedwar ydyw rhif y blodeu-ddail yn y Bresych, a'r holl lysiau sydd yn perthyn i'r un tylwyth. Yn y llysiau hyn y mae y blodeu-ddail wedi eu gosod ar ddull croes.
Sylwer ar wahanol ffurfiau y cylch mewnol yn mlodau y Marddanadl, Mintys, Menyg yr ellyll, Banadl, Clych y perthi, Grug, Trwyn y llo, Cribell melyn, Briallu, ac ereill; ac ar y ddau fath gwahanol geir yn mlodau Dant y llew, Llygad y dydd, ac eraill.
Y mae dail y cylch mewnol yn fwy eu maint ac yn fwy tyner a deniadol eu lliwiau na rhai y cylch allanol. Gwychder ydyw nodwedd y naill a chadernid ydyw nodwedd y llall. Y mae yn eglur ei bod yn fanteisiol i'r blodeuyn fod y rhan allanol o hono yn ddigon cryf i amddiffyn y rhanau mwy tyner y mae yn amgylchynu. Ceisiwn ddangos, maes o law, ei bod hefyd yn llawn mor bwysig a manteisiol i'r blodeuyn fod ei gylch mewnol yn harddwych a dengar.
Y BRIGER.
Y mae ffurf a lleoliad y briger eto yn gwahaniaethu yn fawr yn y gwahanol lysiau. Fel rheol, y mae eu nifer yn benodol yn y gwahanol rywogaethau o flodau. Y mae eu nifer naill ai yn gyfatebol i nifer y rhanau ereill neu yn liosogiad cyfatebol o nifer y rhanau hyny.
Mewn perthynas â rhanau ereill y blodeuyn y mae y briger wedi eu gosod naill ai islaw yr had-gell ynteu ar y cylch allanol neu y cylch mewnol, ac weithiau ar ben y paledryn. Eto, yn eu perthynas â'u gilydd y mae y briger naill ai yn rhyddion, fel eu ceir yn mlodeuyn Crafangc y fran; neu yn gysylltiedig wrth eu bonion, fel rhai yr Hóccys, neu wrth eu penau, fel rhai yr Ysgall. Mewn