gael ei ffrwythloni gan flodeu-flawd o friger blodeuyn arall. Ategir hyn gan sylwadaeth ac arbrofion. Os atelir y trefniadau hyn rhwng y gwahanol flodau nes eu gwneud i ddybynu ar 'hunan-ffrwythiant' yn unig, ceir fod eu had yn wan a'u cynyrch yn eiddil; ac yn ychwanegol y mae 'hunan-ffrwythiant' yn anmhosibl mewn lluaws mawr o flodau.

Mewn rhai ceir y briger a'r baladr wedi eu gosod yn y fath fodd fel y mae yn anmhosibl i'r blodeu-flawd ddisgyn ar flaen paladr yr un blodeuyn; mewn ereill ceir fod y naill aelod neu'r llall yn ddiffrwyth ar wahanol flodau. Felly y mae y faith fod briger un blodeuyn, a phaladr un arall, yn ddiffrwyth, yn gofyn 'traws-ffrwythiant' er cynyrchu'r had. Eto, mewn llawer o flodau nid yw y briger a'r baladr yn cyrhaedd eu haeddfedrwydd ar yr un