Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adeg. Naill y mae y briger yn addfedu o flaen y baladr, ynteu y baladr o flaen y briger. Ceir engreifftiau o'r rhai blaenaf yn mlodau y Ffenigl, Dant y llew, a'r Clychlys; ac o'r rhai olaf yn mlodau y Llyriad, Brwynen flewog y maes, a Pidyn y gôg. Yn y blodau hyn, yn mha rai y mae y briger a'r baladr yn addfedu ar wahanol adegau, y mae yn eglur nas gall ffrwythiant gymeryd lle ond rhwng blodau gwahanol, yn mha rai y mae briger y naill a phaladr y llall yn dygwydd bod yn addfed ar yr un pryd.

Yn y Llyriad y mae y mân-flodau yn ymagor yn olynol o'r godreu i fynu (gwel dar. xxv.); mae'r paledryn yn addfedu a gwywo cyn fod briger yr un blodon yn ymagor a gwasgar ei flodeu-flawd. Yn y Cleddyflys neu y Cawnen y mae'r blodau wedi ei gosod yn sypynau crynion oddiar eu gilydd ar frig y cyff (gwel dar. xxvii). Blodau benywaidd yn unig sydd yn y ddau sypyn isaf, a rhai gwrywaidd yn y rhai uwch

Sylwer fod blodau Pidyn y gôg, pa rai sydd wedi eu gosod ar wahan fel rhai y Cleddyflys, yn cael eu gorchuddio gan fath o gwewll. Y mae cryn hynodrwydd yn perthyn i flodeuyn Pidyn y gôg. Yn y darlun a welir a'r tudalen 52, y mae y ddalen sydd yn amwisgo'r blodau wedi ei thori ar ei hyd. Cyfeiria c at y blodau paladrog, a b at y rhai brigerog. Sylwer fod yr amwisg, neu y cwcwll fel ei gelwir, yn culhau gogyfer ag a, lle y gwelir sypyn o flodau brigerog diffrwyth. Yn gymaint a bod y blodau paledrog wedi eu gosod odditan y blodau brigerog, ymddengys ffrwythiant yn beth tra naturiol yn y blodeuyn hwn. Ond gan nad yw y blodau brigerog a'r rhai paladrog yn addfedu. ar yr un adeg, pa fodd tybed y cymer ffrwythiant le? Wel, y mae'r esboniad yn anhygoel bron, ac oni bai ei fod yn cael ei ategu gan engreifftiau gwell yn mlodau tramor, buasem yn lled—amheu ei gywirdeb ynglyn â blodeuyn Pidyn y gôg.