Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pe agorem yr amwisg sydd yn gorchuddio y pidyn, caem weled liaws o wybed bychain yn crwydro oddi mewn o gylch y mân-flodau. Mae y briger diry wiedig yn cau y man cul ac yn eu rhwystro i ddiangc allan. Sylwer fod cyfeiriad y blew (a yn y darlun) tuag i lawr yn ei gwneud yn hawddach i'r pryfed fyned i mewn nac allan.

Mae y pelydr wedi gorphen blodeuo cyn fod y briger yn addfed, a phan fo'r briger yn bwrw eu blodeu-flawd y mae'r gwybed yn cael eu llychu ganddo; erbyn hyn, y mae'r briger dirywiedig wedi gwywo ac mae'r ffordd yn rhydd i'r carcharorion fyned allan. Ymwelant â blodau ereill o'r un fath, ac wrth grwydro oddifewn i'r rhai hyn drachefn deuant ar draws y pelydr, pai rai a ffrwythlonir drwy fod y blodeu-flawd sydd ar y gwybed yn glynu wrthynt. Pan fyddo hyn oll drosodd—sef pan fo'r pelydr a'r briger wedi darfod a blodeuo—y mae brig dalen y cwcwll yn gwywo ac yn syrthio ar, a chau y fynedfa i mewn at y blodion gwyedig, ac felly atal y gwybed i wneud ymweliadau ofer a diangenrhaid.

Y mae i'r Briallu ddau fath o flodau. Os cymharer y blodau a geir ar wahanol blanhigion a'u gilydd, ceir gweled fod rhai a'u briger yn fyr a'u paladr yn hir, ac ereill a'u briger yn hir a'u paladr yn fer. Gwel darlun xxv, tudalen Yn yr un modd ceir tri math o flodau yn Suran y gôg. Oherwydd hyn, dywedir fod blodau y Briallu yn rhai deu-ffurf, a rhai Suran y gôg yn rai tri-ffurf.

Darganfyddodd Darwin, ac ereill, drwy sylwadaeth ac arbrofion manwl, ei bod yn fanteisiol i'r llysieuyn i'w ffrwythiant gymeryd lle rhwng aelodau cyhyd, hyny yw, rhwng paladr hir a briger hir, neu rhwng paladr fer a briger byr. Ni cheir y ddau fath hyn o flodau byth ar yr un planhigyn. Yn awr, wrth edrych ar flodeuyn â phaladr fer, ni welir dim i luddias hunan—ffrwythiant, oherwydd y