Dyben plisgyn y ffrwyth ydyw ymgeleddu, ac yn aml cynorthwyo i wasgaru, yr had. Ond sylwi ceir gweled fod pob rhyw ffrwyth wedi ei addasu yn rhyfeddol i'r perwyl hwn. Gwahanieithir y plisgyn sydd yn amwisgo yr had i dair rhan, sef (1) yr haen allanol o groen teneu, (2) yr haen ganol, a'r (3) haen fewnol. Y mae yr haen ganol weithiau yn drwchus a thyner pan yn addfed, ac y mae yr un fewnol, fel rheol, yn wydn neu yn galed pan yn addfed. Ceir engreifftiau o'r haenau hyn yn yr Eirin, Cerisen, Cyrawel, a'r Afal. Y mae rhanau celyd neu 'geryg' y ffrwythau hyn yn diogelu yr had rhag dinystr yn nghrombil yr adar sydd yn ymborthi ar ranau tyner y ffrwyth. Y mae had y Gollen, y Ffawydden, a'r Gastanwydden yn cael eu hamddiffyn gan fasgl trwchus, yr hwn sydd yn bigog hefyd yn y ddau olaf.
Mewn amryw lysiau, ar ol gwywo'r blodeuyn, y mae'r cylch allanol yn cau am y ffrwyth, ac yn ei amddiffyn hyd nes y byddo yn addfed. Mewn llawer o'r rhai hyny sydd heb fawr o gylch allanol, megys rhai tylwyth y Cegid, y maent yn cael eu hamddiffyn, i ryw raddau, drwy fod coesau y blodau yn crebychu ynghyd, ac y mae'r ffrwythau, pa rai sydd yn gyffredin yn arw gan ddanedd bychain, yn glynu yn nghyd nes y byddont yn addfed.
Rhan hanfodol y ffrwyth ydyw yr had. Anaml iawn y ceir y ffrwyth yn addfedu, fel ei ceir mewn math neillduol o rawnwin, heb fod yr had yn ymddadblygu. Pan y mae'r had wedi cyflawn ymddadblygu y mae yn annibynol oddiwrth y fam-lysieuyn. Wrth 'annibynol' y golygir terfyniad y cysylltiad byw rhwng yr had a'r llysieuyn, ac nid ei ysgariad oddiwrtho, oherwydd ceir rhai hadau yn blaguro yn y ffrwyth, tra y mae eto ar y pren, heb fod rhyngddynt unrhyw gysylltiad byw neu organaidd.