goleuni arnynt. Y mae i'r ddeddf hon amcanion daionus. yn mywyd y llysieuyn; oherwydd drwy fod coes y ddalen. yn plygu mewn ufudd-dod iddi y mae y llafn yn cael ei ddwyn i wynebu y goleuni yn y modd mwyaf manteisiol er creu sylwedd llysieuig ynddo dan ddylanwad yr haul.
Teimladrwydd.—Fel engraifft o deimladrwydd mewn llysiau gellir nodi y ffaith fod dail lliaws o lysiau yn newid eu safle fore a hwyr; y mae eu safle yn ystod y dydd yn wahanol i'r hwn ydyw yn ystod y nos. Mae'r dail yn gyffredin yn plygu ynghyd yn y nos ac yn ymledu yn y dydd. Achosir y cylchdroad hwn yn y dail gan wahaniaethau yn nhanheidrwydd y goleuni a chyfnewidiadau yn y tymheredd. Y mae hefyd yn perthyn i lawer o ddail symudiadau cylchynol a briodolir i achosion mewnol. Ceir rhai dail mor neillduol o deimladol fel y maent yn cymeryd eu safle nosol yn union y cyffyrddir â hwynt gan unrhyw wrthrych allanol. Gwrtheba briger y Pren melyn a'r Pen- galed i'r cyffyrddiad lleiaf. Yr ydym wedi sylwi mewn man arall ar ddail teimladol y Gwlithlys. Y mae dylanwad dysgyrchiad, ac effeithiau lliwiau elfenol goleuni ar fywyd y llysieuyn yn bynciau rhy ddyrus i'w trin mewn cyfrol fel hon.
Adgynyrchiant.—Y mae llysiau yn adgenhedlu eu rhyw drwy egin a thrwy hadau. Gellir lliosogi amryw blanhigion yn gelfyddydol drwy dori eu cangau iraidd a'u planu. Rhydd y Mefus a'r Llwydwen fodolaeth i lysiau newydd drwy fod y rheffynau sydd yn rhedeg allan o'u cyffiau, yn gwreiddio a blaguro mewn rhai manau, ac yna yn gwywo, a thrwy hyny yn tori y cyssylltiad rhyngddynt a'r famlysieuyn. Mewn ereill, megys y lili a'r wynwyn, rhydd y cyff fodolaeth i egin neu flagur cyffelyb i'w ei hun; pa rai a ymryddhant i arwain bywyd annibynol. Lliosoga y rhai