ungellog megys y Burym, trwy ymranu yn syml. Mae y llysiau hyny sydd yn blodeuo yn cynyrchu eu rhyw drwy had. Y mae hynodrwydd diethrol yn nglyn âg adgynyrchiant y Rhedyn a llysiau cydryw. Pan fyddo grawn Rhedynen yn egino, nid yw yn rhoddi bodolaeth i lysieuyn cyffelyb i'r un a'i hymddygodd, ond i ryw fath o dalen fechan a elwir y cyn-lafn. Nid yw y cyn-lafn yn tyfu yn uniongyrchol i Redynen; wedi oesi am yspaid yn y ffurf syml yma ymddadblyga rhai o'r celloedd i ffurfio aelodau hanfodol—cyfatebol i baladr a briger y llysiau uwch.
Ar ol ei ffrwythianu gwelir un o'r aelodau hyn yn ymwahaniaethu i gyff a gwraidd, ac yn dyfod yn fuan yn Rhedynen o faint anferthol mwy na'r cyn-lafn, pa un sydd erbyn hyn wedi diflanu, ac y mae y Rhedynen fel hyn, megys yn ail-oesi mewn ffurf arall. Fe geir felly yn hanes bywyd un o'r llysiau hyn ddwy genhedlaeth wahanol. Gelwir hyn yn gyfnewidiad cenedlaethau.
Oes llysiau.—Nis gellir dyweyd fod llysiau, fel anifeiliaid, yn cyflawn ymddadblygu unrhyw amser; oherwydd nid ydynt byth yn gorphen tyfu. Y mae y llysieuyn yn blaendarddu drwy gydol ei oes, ac y mae ei frigau yn egin o hyd. Deil rhai fod pob eginin sydd ar y llysieuyn yn ffurfio unigolyn,' oherwydd eu bod yn gallu byw bywyd annibynol ar ol eu tori oddiwrth y fam-lysieuyn a'i trawsblanu. Tybia ereill drachefn fod pob un o'r celloedd bychain sydd yn cyfansoddi y llysieuyn yn ffurfio 'unigolyn.'
Mae rhai lysiau yn marw ar ol ffrwytho unwaith; tra mae ereill yn dwyn ffrwyth amryw weithiau, ac yn byw am flynyddoedd lawer cyn marw. Maei rai llysiau oes benodol ac i ereill oes anmhenodol. Ymhlith y rhai âg iddynt oes benodol ceir (1) y llysiau hyny sydd yn byw ond am un tymor yn unig; (2) y rhai hyny sydd yn blodeuo a marw