VIII. DOSBARTHIAD.
DOSBERTHIR llysiau i RYWOGAETHAU, TYLWYTHAU, LLWYTHAU, a CHENEDLOEDD. Y mae y Rhywogaethau yn cynwys y llysiau hyny sydd yn gyffelyb i'w gilydd yn eu holl ranau pwysicaf, ac yn ymdebygoli i'w gilydd i'r fath raddau fel y gellir yn briodol ystyried eu bod yn disgyn o'r un llinach. Ceir AMRYWIAETHIAU yn y Rhywogaeth pan fyddo'r unigolion yn cael eu nodweddu gan ryw neillduolion. Cyfyd neillduolion newydd drwy amryw achosion sydd yn dylanwadu ar fywyd y llysieuyn. Cynwysa y Tylwythau y rhywogaethau hyny sydd yn cytuno a'u gilydd yn rhanau pwysicaf eu cyfansoddiad. Y Llwythau ydynt gyd-gasgliad o'r Tylwythau hyny sydd yn gyffelyb i'w gilydd mewn rhai nodweddion pwysig. Ar yr un egwyddor drachefn y cyfansoddir y Cenedloedd; ac y mae yr oll o'r rhai hyn eto yn perthyn i un o ddau DDOSBARTH mawr sydd yn cyfansoddi y Byd Llysieuol, sef, y dosbarth AMLWG-BRIODAWL a'r dosbarth DIRGEL-BRIODAWL, neu mewn geiriau ereill y llysiau hyny sydd yn dwyn blodau ac yn hadu had, a'r rhai hyny sydd heb fod yn dwyn blodau ac yn hadu had, yn ystyr gyffredin y gair.
Crynhoir yr holl lysiau yn nghyd yn GASGLIADAU mawrion o dan un o'r ddau ddosbarth uchod yn ol graddau eu hymddadblygiad a'r modd y maent yn ymdebygoli o ran eu ffurfiau. Dengys y Daflen ganlynol y Casgliadau a'u prif nodweddion.