Prawfddarllenwyd y dudalen hon
| Dirgel-briodawl | |||
| CASGLIAD I. | Gwymon a Ffwngoedd:—Llysiau o gyfansoddiad syml; heb fod yn ymwahaniaethu i ddalen a chyff, ac heb na gwraidd na gwythienau. | ||
| CASGLIAD II. | Mwsoglau, ac ereill:—Rhai yn ymwahan— iaethu i ddail a chyff; ond heb na gwraidd na gwythienau, ac yn cenhedlu eu rhyw drwy rawn. | ||
| CASGLIAD III. | Rhedyn, ac ereill:—Rhai yn ymddadblygu o rawn; âg iddynt ddail, cyff, a gwraidd yn meddu gwythienau | ||
| Amlwg-briodawl | |||
| CASGLIAD IV. | Yr holl lysiau sydd yn blodeuo, ac yn dwyn hadau yn mha rai y ceir rhith y llysieuyn yn wraidd, cyff, a dail. Y mae llysiau y Casgliad hwn yn ymranu yn ddwy Gyfres, sef, y rhai Cudd-had, yn mha rai y mae'r hedyn yn amgauedig mewn had-gell; a'r rhai Noeth-had, yn mha rhai y mae'r hedyn yn noeth neu heb fod yn amgauedig mewn had-gell. Y mae y rhai cudd-had drachefn naill ai yn rhai | ||
| Un had-ddalenog, | neu yn rai | Dwy had-ddalenog | |
| | | | | ||
| Rhai a'i bywullyn yn meddu ond un had-ddalen. |
Rhai a'i bywullyn yn meddu dwy had-ddalen. | ||