Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn eglur, oddiwrth yr egwyddorion uchod o ddosbarthu, fod cywirdeb y Drefn Naturiol yn dybynu ar lwyrni ac eangder ein gwybodaeth am y llysiau a ddosperthir. Rhoddir i bob llysieuyn ddau enw, sef, enw y tylwyth ac enw y rhywogaeth i ba rhai y perthyn, megys, er engraifft, Pabi corniog. Drwy ddefnyddio enwau Lladin galluogir llysieuwyr y gwahanol wledydd i ddeall yn well pa lysieuyn a olygir pan y cyfeirir at unryw un penodol.

Yn y tudalenau dilynol bydd i ni gyfyngu ein sylwadau i'r blodau mwyaf cyffredin ac adnabyddus a geir yn tyfu yn Nghymru.

DOSBARTH AMLWGBRIODAWL.

Cenedl DWYHAD-DDALENOG.

Cyfres-ISHADGELLOG

A. Briger o dan yr Had-gell.

Llwyth—Crafangc y fran.

CYLCH ALLANOLrhanau 5, rhydd.
CYLCH MEWNOLrhanau 5, rhydd.
BRIGERlliosog, rhydd.
PALADRffrwyth-ddail lliosog, rhydd.

Y mae amryw flodau sydd yn gwahaniaethu yn fawr yn eu ffurf a'u lliw, ac yn ymddangos yn dra annhebyg i'w gilydd yn perthyn i'r llwyth hwn. Y mae y blodeuyn yn cynwys dau gylch wedi eu gosod islaw'r had-gell. Mae pum' rhan y cylch mewnol wedi eu gosod bob yn ail a phum' rhan y cylch allanol; ac y maent yn rhyddion oddi— wrth eu gilydd. Mae y briger yn lliosog, ac yn rhyddion oddiwrth eu gilydd; y mae eu cysswllt islaw'r had-gell.