Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffrwyth. Y mae blodau glas y Madwysg, Yspardyn y marchog, a Chrafangc y llew, neu Bonet y frenhines yn gwahaniaethu yn fawr o ran eu ffurf oddiwrth y rhai blaenorol. Y maent i'w cael mewn hen erddi a pherllanoedd.

Y mae blodeuyn yr Arianllys neu Troed y barcud yn amddifad o'r cylch allanol a'r cylch mewnol. Y mae blodeuyn y Cronell yn cynwys o 5 i 15 o flod-ddail.

Llwyth—Y Pabi.

CYLCH ALLANOLrhanau 2, rhydd.
CYLCH MEWNOLrhanau 4, rhydd.
BRIGERlliosog, rhydd.
PALADRffrwyth-ddail lliosog, unedig.

Y mae llysiau y llwyth hwn yn llawn nodd llaethog. Y mae iddynt flodau mawr a gorwych. Mae y ddwy ddalen sydd yn ffurfio y cylch allanol yn syrthio ymaith cyn ymagor o rai y cylch mewnol. Y mae y cylch mewnol yn cynwys pedair dalen sidanaidd pa rai sydd wedi eu gwasgu ynghyd yn yr egin flodeuyn. Cyn ymagor y mae blodeuyn Pabi yn gogwyddo ei ben tua'r llawr fel pe yn ymwybodol o'i freuder diarhebol. Blodeua o Fehefin i Fedi. Ceir amryw fathau o honynt yn ddigon cyffredin mewn gerddi a cbaeau llafur. Un o'r rhai mwyaf cyffredin ydyw y Pabi coch neu ysgarlad, Adwaenir hwn hefyd fel Llygad y cythraul. Y mae yna un arall, yn blodeuo yn ddiweddarach, ag iddo flodeuyn gwyn. Y mae penau neu ffrwyth y ddau yma yn grwn a llyfn. Y mae un arall ysgarlad yn hirben a llyfn, ac un arall o liw coch llai dwfn yn hirben a gwrychog. Y mae tri ag iddynt flodeu melyn, sef, y Llwydlas, y Pabi Cymreig, a'r Dilwydd. Ceir y Llwydlas, neu y Pabi corniog melyn yn tyfu yn y tywod ar lan y