Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor. Y mae ei ffrwyth hirfain yn aml yn drodfedd neu ragor o hyd, ac yn cael ei ranu i ddwy gell. Nid yw y Pabi Cymreig mor gyffredin a'r ddau arall. Tyf mewn lleoedd creigiog cysgodol, ac y mae iddo flodeuyn llawer tecach na'r un Pabi arall. Y mae y Dilwydd felen neu Llym y llygaid yn ddigon cyffredin mewn hen berthi. Y mae ei flodeuyn yn fychan iawn o'i gymharu a'r lleill, ac y mae ei nodd o liw melyn euraidd. Parthed ffrwyth y Pabi gwel tudalen 68. Enw arall, ac nid anmhriodol, ar y Pabi ydyw Drewlys. Sudd amrywiaeth o'r llysieuyn hwn a godir yn y Dwyrain ydyw yr opium, o'r hwn y darperir amryw feddyginaethau gwenwynig.

Llwyth—Y Bresych.

CYLCH ALLANOLrhanau 4, rhydd.
CYLCH MEWNOLrhanau 4, rhydd.
BRIGER6, rhydd.
PALADRffrwyth-ddail 2, unedig.

Y mae y llwyth hwn yn cynwys nifer mawr o lysiau a'u blodau ar ffurf croes. Y mae y cylch allanol yn cynwys pedair dalen, dwy o ba rai sydd wedi eu gosod yn îs na'r lleill. Y mae pedair dalen y cylch mewnol wedi eu gosod bob yn ail a rhai y cylch allanol. Y mae dau o'r briger yn fyrach na'r lleill. (Gwel Dar. xxii c). Y mae y baladr yn cynwys dwy ffrwyth-ddalen wedi eu cyssylltu ynghyd nes ffurfio had-gell ddwy-gellog. Y mae y llwyth hwn yn cael ei ranu i wahanol îs-lwythau yn ol ffurf y ffrwyth. Yn yr îs-lwyth hir-gibawg y mae y ffrwyth yn llawer mwy yn ei hyd |a'i led; yn yr îs-lwyth byr-gibawg y mae bron o'r un hyd a lled. I'r rhai

Hir-gibawg

y perthyn yr Hydyf neu Blodeuyn y gog. Ceir y tri