Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwersi Mewn Llysieueg.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amrywiaeth o hono mewn gweunydd ac ar lan afonydd. Y mae ei flodeuyn yn wyn; ond y mae gwawr goch ar flodeu-ddail yr un sydd yn tyfu mewn gweunydd. Y mae Berw'r dwr yn tyfu mewn nentydd ac afonydd. Y mae blodau Berw'r gauaf yn felyn; tyf mewn lleoedd gwlyb; blodeua o tua Mai i Awst. Y mae yr Arfog yn ddigon cyffredin mewn hen berthi a lleoedd sych. Y mae blodeu yr Arfog arllegog neu Troed yr asen yn wyn. Gwna y Murwyll, neu Melyn y gauaf ei gartref ar hen furiau. Y mae meusydd llafur yn aml yn felyn o'r naill ben i'r llall gan flodau y Cedw gwyllt, neu'r Ysuiab, Cedw du neu Mwstard cyffredin, Bresych yr yd a'r Erfin gwyllt. Y mae Bresych ac Erfin y gerddi wedi deilliaw trwy driniaeth o rai gwyllt y meusydd. Nid yw y Rhuddygl yn perthyn i'r is-lwyth hwn er fod ei ffrwyth yn hir. Y mae un math o hono yn tyfu mewn caeau llafur ag iddo flodeuyn melyn neu wyn, ac un arall ar lan y mor ag iddo flodeuyn melyn. Y mae cibau y Rhuddygl yn fain rhwng pob hedyn ac y maent yn ymddangos yn ddolenog. Oddiwrth ffurf ei ffrwyth, yn ddiameu, y mae wedi derbyn yr enw Bysedd yr iar. I'r rhai y perthyn y llysieuyn bugail neu Llys tryfal.

Byr-gibawg

cyffredin hwnw a elwir Pwrs y Tyf Berw'r moch neu Olbrain ar ochrau ffyrdd. Y mae yn ymlusgo ar hyd y llawr. Ceir dau amrywiaeth o hono—y mwyaf a'r lleiaf. Nid yw yr amrywiaeth lleiaf mor gyffredin a'r mwyaf; ond gwelsom hwn yn tyfu yn doreithiog yn ynys Enlli. Sylwer ar y rhwydwaith prydferth o rygnau sydd ar ffrwyth Berw'r moch. Y mae gwahanol amrywiaethau Berw'r gwyllt neu'r Pybyrlys yn ddigon adnabydus. Y mae cibau yr holl lysiau hyn yn cael eu rhanu ar eu traws yn eu man culaf.