Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwialen Fedw Fy Mam.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

With gofio'r amser anwyl gynt
Dŵys wylo'r wyf;
Ac ocheneidio ar fy hynt,
Gan faint fy nghlwyf;
Mae ereill o fy amgylch i
Yn meddu cartref heb un cri,
A rhiaint tyner, mawr eu bri,
A chwaer a brawd—
Ond wele fi heb unrhyw le
Yn gartref mwyach dan y ne,'
Na thad na mam, na noddfa gre'—
Yn llwm a thlawd!

Bum inau'n ddedwydd dro yn ol,
Ar aelwyd glyd;
Mewn bwthyn bychan ar y ddôl,
Gwyn oedd ein byd;
O! fel y canai'm mam mor fwyn
Er fy nifyru gyda'i swyn,
A minau'n iach heb unrhyw gwyn,
Yn swn ei cherdd:
Ond darfu cân fy mam i mi,
A'm cartret hoff, pan gollais hi,
Ao ar ei bedd inae'm dagrau'n lli',
Dan ywen werdd!

O! cladder finau yn ei bedd,
Yn medd fy mam:
Caf yma orphwys mwy mewn hedd,
O gyraedd cam;
Yn mrig yr ywen boed y gwynt,
Yn seinio galar gerdd ar hynt
Er côf am rai fu'n ddedwydd gynt,
Yn deulu cun;
Cysgoda dithau, y wen ir,
Y beddrod hwn am amser hir—
Hyn ydyw fy nymuniad gwir,
Amddifad un!

Iorwerth Glan Aled





Argraffwyd gan H. Hmnphreÿs, Caernarfon.