Ac yma daeth Madog a'i Gymry llygadog
I ddial ar fradog ddifrodwyr ei wlad;
'Nol trechu Caernarfon a chrogi'r hen Bilston,
Dwyn Dinbych wnai'r dewrion di-dorriad.
Pan fu'r gadfa hynod parth rhinwedd Rhosynod,
Bythynod hen "Harlech a Dinbech bob dor"
Rhag Siaspar a grynne, ac yntau a fynne
Eu cynne—"Nan' Conwy yn farwor!"
Rhaid addef mai llencyn oedd Dafydd ap Siencyn
Chwareuodd gryn brencyn a'r hen Ustus Coch,
Ond d'wedwch wyr dawnus, oedd pranciau yr ustus
Bob pryd yn rhai gweddus, os gwyddoch.
Pan oedd Carl y Cynta' mewn helynt o'r brynta',
Ac Olfyr ac ynta'n ymgeintach yn groch,
Y dewraf o'i weision dan bob anfanteision
Fu'r hen 'Sane Gleision, chwi glywsoch.
Ni fynnai'r hen Frytwn, er Miltwn na Mytwn,
Roi'r castell i Bengrwn, mor bengry' oedd o,
Heb gennad y Goron; fe'i ca'dd, neu fe ddichon
Mai yno bae'r dynion hyd heno!
Llanelwy hynafol, bu'th eglwys gadeiriol,
Yn gyrchfa'r annuwiol, a'r duwiol, a'r da;
Bu hefyd, 'nol brwydyr, yn stabal a chysur
I brysur feirch Olfyr, fawr chwalfa!
A thyna'r gyn'lleidfa amhechadurusa
Fu yn yr addolfa erioed, ebe rhai;
Sut bynnag, 'rwyt gyfan; mae hynny'n werth cyfran
Dda rwan o'r arian i rywrai.