Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III.
Eithr mwyn heno swyn twyn, llwyn a llannerch,
Awel glaf hwyrnos haf glywaf i'm hannerch;
Ynddi daw oddi draw gwynaw y tonnau,
Yn ei bôn y mae ton gloesion yr oesau;
Ynddi hi clywaf fi gadgri Caradog,
I'm clyw tyrr hwrdd a gyrr brwydyr gynddeiriog;
Olaf roch dolef groch y froch gyflafan
A wnaeth "frad gwyr fy ngwlad ar Forfa Rhuddlan!"

Wele draw feiddiol drem castell adfeiliog
Dyrch yn lew dan ei dew wisg eiddew deiliog;
Trwm a gwyllt dremia gwg trwy'r iorwg gwyrddion,
Dwed am ru'r arfau dur, cadau'r gwyr gyrddion;
Hanes hynt Harri gynt, a cherynt galon
Rhwysc y wledd pan oedd medd yn tanio 'u calon;
Hanes mâd wyr ein gwlad, câd a chelanedd,
Godwrf pur arfau dur gwyr Owen Gwynedd.

Ond yn awr darfu gawr llafnawr llurigog.
Heno fo huna'n fwyn dan y llwyn brigog;
Heibio'r gaer heno'n glaer llifa'r Glwyd fywiog
Hefo'i mwyn, bruddaidd gwyn, lawn o swyn rhywiog:
Onid yw hithau'n d'weyd hanes hen oesau—
Suo lleddf hanes llid, gofid a chroesau
Wrtho fo, gertha' falch gastell digofus,
Ar ei thaith fythol faith mewn iaith wylofus?


IV.
A thraw o Ddyffryn Clwyd
Af yn awr yn fy nwyd,
I wrando'r tonnau'n cwyno'n brudd
Alarnad dewrion gaed
I roi eu gwerthfawr waed
I ddial estron drais a chadw Cymru'n rhydd!