Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CANU'R NOS.

Mae hafnau'r glyn yn duo
Dan wyll cysgodion nos,
A'r awel gref yn rhuo
Ar waen a dôl a rhos.

Er garwed mae'n taranu,
Er dued ydyw'r nos,
Mae'r eos bêr yn canu
Mewn rhwysc y'min y rhos.

Mae f'oriau finnau'n duo
Dan ael fy nudew nos,
Ac edyn gofwy'n suo
O famgylch, fenyw dlos.

Er garwed mae'n taranu,
Er dued yw fy nos,
Myfinnau wyf yn canu
Mal eos min y rhos.

Dy eos ydwyf, meddet ti,
Ryw dro, fy enaid dlos,
A thyna bam y canaf fi
Dan niwl fy nudew nos.


SWYN Y WEN.

Mi welais liwus loer
Yn gloywi cwmmwl du,
Nes euro dunos oer
A gwên ei gwyneb cu.