Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II
Ei delw delaid wén
Oedd ddwfn y'mron y llyn,
Nes daeth cymylau'r nen
I guddio'i gwyneb gwyn

Ond ciliai'r cymmyl certh,
A gwridai'r lloer drachefn,
A phefrai'i delw ferth
Y'mron y llyn yn llefn.

A felly, f'anwyl fun,
Doed wên i'th wyneb di,
Daw hynny ohonno'i hun
A gwên i'm gwyneb i.


NON.

Gwen ton pan torro, terwyn ei throchion.
A thrychwyllt gynnwrf a ganna ei bron:
Claer a llathrwyn llethrau is lluwchion
A llachar od newydd dan huan llon;
Glanach na'r ewyn a'r iâ yw pur galon
A golwg f'anwylaf wén eilun, Non.

Euraid yw'r wawr hyd ororau goleuder,
Goludog aur wawl ydyw'r heulwen dêr:
Glân hithau loerwen, lariaidd ei lleuer,
Lliwus dyrch eurain derch oror yw'r ser;
Harddach na'u heurwedd yw'r hirwallt a dyner
Ymdonna am wyneb fy meinwen bêr.