Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pêr y cân eos yn nhywyll nos dawel,
Diwall delori o'r dail irain a wnél;
Llafar rhwng deilos y dylif yr awel,
Rhywiog yw cwrnad y corneint cêl;
Mwynach na'r dil, na'r delyn, a'r dwsmel
Rhed esmwyth lais Non pan i'm dwylo'n chwim dêl.


DYHUDDIANT.

Paid ag wylo, Olwen dlos,
Ddagrau ar dy ruddiau rhos;
Amser sy'n grymuso'r serch
Ynnof fi, diriona' ferch;
Er i loesau garw lid
Efo 'nghroesau ddeifio 'ngwrid,
Un yw'r galon hon o hyd,
Tyner byth er bryntni'r byd;
Megys y'mhlentyndod gynt
Pan wrandawem swn y gwynt
Yn y coed yn canu cân
Efo myrdd o adar mân,
Ac y llamai'th galon di
Fel y llamai 'nghalon i;
Felly byth er gwaetha'r byd
Y mae 'nghalon i o hyd.
Paid ag wylo, Olwen, mi
Rof y cwbwl erot ti.