SERCHGAN.
Perlog geinwrid gwynros perthi,
Wyryf war, a chwâr pan chwerthi
Ar dy lednais wedd aneisior,
Mwynder hafal hefin dymmor;
Lliw ewyndroch tón aflonydd,
Gorne manod gorwyn mynydd.
Esmwyth ddwyrudd, ceinros rhuddain,
Gwythi gwaed ar fynor disglain;
Rhuddgoch wrid y nef yw'th wefus,
Mal y mafon, mal y mefus!
Gwallt dy ben ymdonna'n llenni,
Eurwawl heulwen ar y lili.
Is mireinfrig ros marianfryn,
Cân y gân a ganet, wenddyn,
Flwyddi'n ol cyn inni brofi
Dygyn bryder llwybrau gofid.
Hardd y chwardd pob llannerch werddlas,
Uchel goetlwyn; ferch lygatlas,
Eirioes lennyrch y rhoslwyni
Ddycan' groeso etto itti.
Cân y gân a genit, honno.
Yrr y galar hir i gilio—
Honno gyfyd hen adgofion
Pêr hen amser yn fy nghalon.
BETH?
Y'nghanol y grug ar y mynydd maith
Gorweddais i lawr, a'm llygaid yn llaith.
Meddyliais glywed murmur y don
Yn galw, a deffro rhyw boen yn fy mron.