Ar draeth y môr y'murmur y lli,
Gorweddais, a gwên ar fy ngwyneb i.
Meddyliais weled y grug bach llon
Yn galw, a deffro'r boen yn fy mron.
Ar hwyrnos auaf wrth dân o fawn,
Gorweddais, a'm llygaid o gwsc yn llawn.
Breuddwydiais wel'd haf ar y grug a'r don
Yn galw, a deffro'r boen yn fy mron.
Y'nghanol tlodi, angen, ac aeth,
Y dagrau'n llif i fy llygaid a ddaeth.
Tybiais wel'd golud a mwyniant llon
Yn galw, a deffro'r boen yn fy mron.
Y'nghanol dedwyddyd, golud, a bri,
Llawenydd a lanwodd fy llygaid i.
Ond teimlwn ryw awch nas diwallai'r byd.
Yn galw, a deffro 'r hen boen o hyd—
Y boen yn fy mron o hyd, o hyd.
PAID AG WYLO, TAW A'TH GWYN.
Pan yr wylwn gerdd allwynin
Chwerw, ar yr unig ros,
Clywais lais o frig y llwyni'n
Galw arnaf fin y nos;
Ebai'r llais yn wan, grynedig,
"Paid ag wylo, taw a'th gwyn!"
Minnau syllais yn synedig
Tua'r llannerch yn y llwyn.