Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Felusa lais! Fel isel lef
Y don, yw ef, pan daeno hi
Furmurol lif o'r môr i lán
Freuddwydiol haf.

Anwyled yw! i'm nol y dêl;
Y galon gêl, fe'i geilw'n gu
O feiau lu, a'i ddwyfol iaith.
Ddyfala hi.

O, felus su â'i ddwyfol swyn
A ddel i 'nwyn o'r ddyla' nos
I wenwawr glos, i awyr glir
Calonnau glân.


CYSUR BYWYD.

Llafur a lludded,
Gofid a chroes,
Rhyfedd cyn brudded
Ydyw ein hoes;
Ambell air mwyn,
A myrdd o rai sur—
Curio dan gŵyn
A chwyno dan gur.

Llawen obeithion
Heddyw y sydd;
Dioddef arteithion
Fory a fydd;
Cysgod yw bod,
A breuddwyd yw byw;
O b'le 'r ym ni'n dod—
B'le 'r awn, druan ryw?