Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth yr holl leianod santaidd
Yno gyda goleu'r wawr,
Ac o dan y llwyn garlantaidd
Rhodded Morfudd dlos i lawr.
Ond mae un yn crwydro, crwydro,
Fyth â'r stormydd oll mae'n brwydro,
Fyth mae'n ceisio'r beddrod llwydro
Lle rhoed Morfudd dlos i lawr.


DEIO 'R GWAS A BETTI 'R WAEN.
(Yn ol "Abner and the Widow Jones," Bloomfield, a chwedi ei chanu yn nhafodiaith Dyffryn Clwyd.)

"Wel! gafr a'm 'sgubo'i, dene ben;—
Wo, Captyn hel dy hegle 'mlaen;
Mi af y fory, doed a ddel,
I drio'r weddw bia'r Waen.

"Am wedd o 'bolion teirblwydd clên,
Ma' mistar braidd yn cadw swn,
A 'ngwas i, mi'r wyt ti'n rhy hên
I ddim ond myn'd yn fwyd i'r cwn.

"On' tawn i'n medru 'hennill hi,
Mi cadwn di rhag tro mor arw;
Caet gerch a phorthiant iawn gen i,
A byw—wel, wel, nes byddet farw!

"Ai tybed rhaid dy saethu di,
A chwalu d'esgyrn, ol a blaen?
Na raid, myn gafr! pe 'nghrogid i—
Os medra'i ennill gwraig y Waen!