Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A ffwrdd a fo, a'i glôs pen glin,
A'i wascod lewis newydd spon;
Fu Dei, wrth groesi draws Cae Llin,
Yrioed mor dwt a'r nosweth hon.

A dechre deffro yn y man
'Nae'r cariad yrre Ddei o'i go',
Pen ddaru streuon clepie'r llan
Gynt beri i Fetti 'wrthod o.

Ond p'run oedd Betti, ar y slei,
Yn ddistaw bach, 'rol claddu'r gŵr,
Yn codi'i bys, fel tae, ar Ddei,
'Does neb a feder dd'eyd yn siwr.

Sut bynnag, fel 'roedd Dei yn hel
'I brennie traed ar draws y fron,
Mi 'gwelodd Bet, a'i gwyneb del
Oedd weithie'n sad ac weithie'n llon.

Mi glywe Betti swn 'i droed,
A fynte'i hun ar hynny'n d'eyd—
(Aeth hithe'n gochach nag erioed)—
"Hei! Betti Gruffydd—sut ma'i'n gneyd?"

A chwedyn hi roth hanner tro,
Ond colli'i gwynt y teimle'i hun;
A phengam ffreue'r adarn to
O'r bargod tew, wrth weld y dyn.

Mi 'steddodd Dei yn ddi-ymdroi,
A phenderfynnodd, clên ai croes,
I ddeyd 'i feddwl, doed a ddoi,
'Ran, dene'i ffordd ar hyd 'i oes.

Mi gydiodd yn 'i llaw hi'n dynn—
Mi ddalie'r fainc gryn wyth ne ddeg—
A dalltodd Betti gyda hyn
Fod Deio am roi cynnig teg.