O Betti anwyl! gad i mi
Ga'l d'alw fel'na 'rol 'mi ddod,
Ran, er nad fi y'th bia di,—
Ar bwy bu'r bai?—fi 'lase fod!
"A'th hynny, do, ond, diawch! mi d'rewis
I feddwl eilweth, a 'bre fi,—
Os prioda'i byth, y neb 'na'i ddewis
A fynna'i'n wraig—be ddyliet ti?
Pan oeddwn i, brynawn ddy' Llun,
Yn troi taleri'r hen Gae Glas,
Deng mlynedd, 'berwn wrthyf f' hun,
Fu's yn yr Hendre Ddu'n ben gwas.
"A rwan, dyma Fetti'n rhydd—
Mi alle nghofio fi o hyd—
Mi ceris hi am lawer dydd,
Be ddaw? 'Does w'bod yn y byd!
"'Ran, hwrach 'r eiff y tipin tir
Sy' gynni'n llanast llwm di lun,
A hithe'n dlottach cyn b'o hir,
A cholli'i chartre 'neiff 'i hun.
"Ac hefo'i thy a'i thir 'i hun,
Mor daclus fydden ni yntê!
A phwy gae Fetti ond y dyn
A'i cadwe ac a drine'r lle?
"A 'ngeneth wen i dene pam
Y dois—nid fi ddoe i ddim byd,"
Mi gochodd Betti fel y fflam,
A 'dryche ar y llawr o hyd.
Mi roth 'i phen as ysgwydd Dei,
Dan sobian yn 'i balchder synn;
A medde fynte, "Bet! mi 'nei
'Y nghymryd!"—dan 'i gwasgu'n dynn.
Tudalen:Gwlad y Gan a Chaniadau Eraill.djvu/27
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon